Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a'u cynorthwywyr ynghylch materion dan ystyriaeth gan y Cynulliad a'i bwyllgorau ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a'r cyngor a gynhwysir ynddi yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd partïon.

 

This document has been prepared by National Assembly for Wales lawyers in order to provide information and advice to Assembly Members and their staff in relation to matters under consideration by the Assembly and its committees and for no other purpose. Every effort has been made to ensure that the information and advice contained in it are accurate, but no responsibility is accepted for any reliance placed on them by third parties

 

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL –

BIL PENSIYNAU’R GWASANAETH CYHOEDDUS

 

Cefndir

 

1.       Ar 2 Hydref 2012, rhoddodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ hysbysiad ynghylch cynnig fel a ganlyn –

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 13 Medi 2012, sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

 

2.       Trafododd y Pwyllgor Busnes y Memorandwm ar 9 Hydref 2012 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, cytunodd y Pwyllgor i'w gyfeirio i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn iddo graffu arno.  Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm i’r Cynulliad erbyn 15 Tachwedd 2012, er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2012. Diben y nodyn hwn yw hwyluso’r drafodaeth honno.

 

Y Bil

 

3.       Cyflwynwyd Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Medi 2012 gan Ganghellor y Trysorlys.  Bwriedir cynnal dadl Ail Ddarlleniad y Bil ar 22 Hydref.  Ceir gwybodaeth gefndirol fanwl am y Bil ym mharagraffau 3 i 11 y Nodiadau Esboniadol i'r Bil: http://www.publications.parliament.uk/pa/bills/cbill/2012-2013/0070/en/2013070en.htm

 

4.       Bydd y Bil yn newid y gyfraith ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, a bydd gofyn cael cydsyniad deddfwriaethol gan bob un o'r deddfwrfeydd datganoledig.  Caiff hyn ei esbonio yn y Nodiadau Esboniadol a gafodd eu cyflwyno gyda'r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'n nodi:

 

TERRITORIAL EXTENT

 

12. This Bill extends to England and Wales, Scotland and Northern Ireland.

 

13. The Northern Ireland Assembly’s consent will be sought in relation to the provisions of this Bill to make schemes for pensions and other benefits that are within the competence of that Assembly.

 

14. This Bill contains provisions that trigger the Sewel Convention in Scotland. The provisions relate to the pensions of certain members of the Scottish judiciary and a power to require the closure and reform of pension schemes in public bodies for which the Scottish Parliament has competence. The Sewel Convention provides that Westminster will not normally legislate with regard to devolved matters in Scotland without the consent of the Scottish Parliament. We have sought “in principle” agreement from Scottish Ministers to seek a Legislative Consent Motion for these provisions. If there are amendments relating to such matters which trigger the Convention, the consent of the Scottish Parliament will also be sought for them.

 

15. The consent of the National Assembly for Wales will be sought in relation to provisions in this Bill which apply to new pension schemes for public bodies and” statutory office holders; the National Assembly for Wales has competence in relation to pension schemes for Assembly Members, Welsh Ministers and members of local authorities.”

 

Paratowyd y Nodiadau Esboniadol hyn gan y Trysorlys i gynorthwyo â'r gwaith o drafod y Bil.

 

5.       Diben y Bil yn gyffredinol yw pennu'r trefniadau newydd ar gyfer creu cynlluniau i dalu pensiynau a buddion eraill. Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion greu cynlluniau o'r fath yn unol â fframwaith cyffredin o ofynion.  Mae'r Bil hefyd yn rhoi pwerau i'r Trysorlys bennu manylion technegol rhai gofynion penodol ac yn rhoi pwerau i’r Rheoleiddiwr Pensiynau gynnal system oruchwylio annibynnol ar y modd y gweithredir y cynlluniau hyn.

 

6.       Aiff y Nodiadau Esboniadol ymlaen i esbonio:

 

“Y bwriad yw y bydd y pwerau yn y Bil yn disodli pwerau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhai sydd yn y ddeddfwriaeth a ganlyn, ar gyfer creu cynlluniau i dalu pensiynau a buddion eraill:

• Deddf Blwydd-daliadau 1972, ar gyfer gweision sifil, pobl a gyflogir gan lywodraeth leol, athrawon a phobl sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd;

• Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;

• Deddf y Lluoedd Arfog (Pensiynau ac Iawndal) 2004;

• Deddf Pensiynau’r Heddlu 1976;

• Deddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barnwrol 1993; a

• Gorchymyn Blwydd-daliadau (Gogledd Iwerddon) 1972.

 

Mae’r Bil yn diogelu’r buddion a enillir eisoes gan aelodau cynlluniau pensiwn cyfredol y gwasanaeth cyhoeddus, ac mae’n galluogi categorïau penodol o bobl sydd agosaf at ymddeol i barhau’n aelodau o’r cynlluniau hynny.”

 

Cymhwysedd Deddfwriaethol

 

7.       Mae'r darpariaethau y mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn cyfeirio atynt yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o dan Bwnc 4 (Datblygu economaidd) a Phwnc 13 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 

 

8.       Cafodd y geiriad o dan bennawd 4 (Datblygu economaidd) ei ddiwygio gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 (OS 2007/2143) i gynnwys eithriad penodol mewn perthynas â chynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol.  Cafodd hyn, yn ei dro, ei ddiwygio gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2010.  O ganlyniad, mae'r eithriad i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â phensiynau yn cynnwys 'eithriad i eithriad' ar gyfer materion y cyfeiriwyd atynt yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ac mae'n darllen fel a ganlyn:

 

“Occupational and personal pension schemes (including schemes which make provision for compensation for loss of office or employment, compensation for loss or diminution of emoluments, or benefits in respect of death or incapacity resulting from injury or disease), apart from schemes for or in respect of Assembly members, the First Minister, Welsh Ministers appointed under section 48, the Counsel General or Deputy Welsh Ministers and schemes for or in respect of members of local authorities.”

 

9.       Mae pennawd 13 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn cynnwys y cyfeiriad a ganlyn mewn perthynas â phensiynau:  Salaries, allowances, pensions and gratuities for and in respect of Assembly members, the First Minister, Welsh Ministers appointed under section 48, the Counsel General and Deputy Welsh Ministers.  Pan gafodd yr eithriad ar gyfer pensiynau ei gynnwys yng ngorchymyn 2007, roedd yn angenrheidiol cynnwys eithriad i'r eithriad fel nad oedd yn gwrth-ddweud y cymhwysedd a roddwyd o dan bennawd 13.  Cafodd yr eithriad i eithriad pellach ar gyfer aelodau o awdurdodau lleol ei wneud gan orchymyn 2010.

 

 

Y Memorandwm Cydsynio

 

10.     Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi mai cymal 27 yw'r cymal sy'n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.  Mae cymal 27 yn nodi'r gofynion yn y Bil a fydd yn berthnasol i gynlluniau pensiwn cyrff cyhoeddus newydd, a fyddai'n cynnwys y cynlluniau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru ac ar gyfer aelodau o awdurdodau lleol, neu mewn perthynas â hwy. 

 

11.     Mae mater arall mewn perthynas â chymhwysedd.  Mae cymal 16 yn ei gwneud yn ofynnol nad oes unrhyw fuddion i gael eu darparu o dan gynllun sy'n bodoli eisioes a restrir yn Atodlen 5.  Mae hyn yn cynnwys: “A scheme constituted by paragraph 6(3) of Schedule 11 to the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (nawm 1)”.  Mae paragraff 6(3) yn darllen fel a ganlyn:

 

“(3)      The Welsh Ministers may pay—.

(a)        pensions to, or in respect of, persons who have been members of the Tribunal, and

(b)        amounts for or towards provision of pensions to, or in respect of, persons who have been members of the Tribunal.”

 

12.     Mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â'r Gymraeg yn llawer ehangach o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nag yr oedd o dan Atodlen 5.  Os oedd y ddarpariaeth hon o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn 2011, mae'n parhau i fod yn awr.  Nid yw'n glir, felly, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at hyn yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

13.     Mae cyfeiriadau penodol eraill at Gymru yn y Bil.  Mae cymal 1 yn eithrio rheoliadau cynlluniau a wnaed gan Weinidogion Cymru ar gyfer gweithwyr tân ac achub o'r rhai y mae'n ofynnol iddynt gael cysyniad y Trysorlys.  Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud cynlluniau mewn perthynas â'r gwasanaethau tân ac achub, ond nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw bŵer i wneud deddfwriaeth sylfaenol ar y pwnc gan fod cynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol wedi cael eu heithrio o gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.  Mae cymal 20(5) yn cynnwys gofyniad i ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol os cynigir newidiadau penodol i gynlluniau o'r fath.

 

14.     Ni fydd y Bil hwn yn gwneud unrhyw newidiadau i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.  Gan hynny, bydd y cymhwysedd i wneud darpariaethau mewn Deddfau Cynulliad, nad ydynt yn cyd-fynd â gofynion y Bil presennol, yn parhau gyda'r Cynulliad.

 

 

Casgliad

 

15.     Bydd y Bil yn gwneud newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth ar gyfer cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus.  Mae'n cynnwys darpariaethau penodol sy'n ymwneud ag oed pensiwn ar gyfer Aelodau Seneddol ac Aelodau o Senedd Ewrop yn ogystal â nifer o weithwyr yn y sector cyhoeddus.  Y mater i Aelodau'r Cynulliad ei ystyried yw a ydynt yn fodlon cael eu cynnwys (ynghyd â'r Cwnsler Cyffredinol ac aelodau o awdurdodau lleol Cymru) yn y ddeddfwriaeth, tra bônt yn cadw'r cymhwysedd i ddeddfu'n wahanol yn y dyfodol yn yr achosion prin hynny, os ydynt yn dewis gwneud hynny.

 

 

Y Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Hydref 2012